Добавьте этот текст песни в ваш персональный список песен.
DOD DY LAW
Dod dy law ond wyt yn coelio,
Dan fy mron a gwylia mriwio,
Ti gei glywed os gwrandewi,
Swn y galon fach yn torri.
O! f'annwylyd cymer frwynen,
Ac ymafael yn ei deupen,
Yn ei hanner torr hi'n union,
Fel y torraist ti fy nghalon.
Trwm yw'r plwm a thrwm yw'r cerrig,
Trwm yw calon pob dyn unig,
Trymaf peth dan haul a lleuad,
Canu'n iach lle byddo cariad.
Для быстрого перехода к нужной песне вы можете добавлять в этот список любые тексты песен. Данный список автоматически сохраняется на вашем компьютере.